ENGLISH
 

Archif Gatrodol
(Milisia) Peirianwyr Brenhinol Sir Fynwy

Yr Archif Gatrodol

Mae'r archif yn cynnwys y cofnodion canlynol:
Llun o sawl hen gyfrol o'r archif
Rhai o'r cofnodion
Clicio'r delwedd am fersiwn fwy

Cofnodion o Wasanaeth Swyddogion, 1787-1997
Manylion cryno am wasanaeth swyddogion yn y Gatrawd

Cofrestri Ymrestru, 1786-1817, 1872-1927
Tair cyfrol yn cofnodi enwau a manylion pawb a ymrestrodd ar gyfer gwasanaeth

Rholiau Catrodol, 1913-1916
Rhestrau o ddynion a fu'n gwasanaethu yn y Gatrawd ar ddyddiadau penodol. Yn rhoi enwau a rhifau catrodol, a dim llawer mwy o wybodaeth

Rholiau Mwstro Misol Dirprwyon, 1803-1815 a 1856
Yn cynnwys enwau swyddogion a dynion, yn ogystal â chrynodeb ystadegol o gryfder y Gatrawd

Cofnodion Wythnosol a Misol y Swyddfa Ryfel, 1799-1804, 1812-1815, 1877-1884
Yn cynnwys enwau swyddogion yn unig, ac ystadegau ar gryfder y Gatrawd

Cofrestr Seibiant, 1812-1815
Yn cofnodi absenoldebau a ganiatawyd i swyddogion a dynion

Llyfr Cofnodi Ymweliadau â'r Ysbyty, 1863-1889
Yn cofnodi enwau aelodau'r Gatrawd a fu yn yr ysbyty, gyda manylion cryno am y salwch

Cofrestr o Briodasau a Phlant, 1859-1920
Yn cofnodi manylion priodasau a phlant aelodau'r Gatrawd

Rhestrau Talu, 1811 a 1831
Yn cynnwys taliadau i bob aelod o'r Gatrawd, fesul enw, a threuliau eraill

Llun o lyfr gorchmynion Catrodol, yn dangos tudalennau mis Mai 1812
Lyfr gorchmynion
Catrodol ar gyfer 1812
Clicio'r delwedd am fersiwn fwy
Llyfrau Gorchmynion Catrodol, 1805-1815, 1868-1907, 1932-1939, 1972-1976
Mae'r llyfrau hyn yn cynnwys copiau o hysbysiadau a ddarllenwyd i'r Gatrawd neu a roddwyd i unigolion, gan gynnwys manylion gweithgareddau dyddiol, gorchmynion ac unrhyw wybodaeth arall oedd angen ei chyfleu. Rhoddir lleoliad y Gatrawd ar ddechrau gorchmynion pob dydd

Llyfrau Llythyrau Dirprwyon, 1852-1854, 1865-1878
Copiau o lythyrau a anfonwyd gan y Dirprwy (swyddog gweinyddol y Gatrawd)

Cofnodion gweinyddol a gwasanaeth y Gatrawd, yn cynnwys cofnodion o ddiwygio ac ad-drefnu, sefydlu a recriwtio, lifrai, gweithdrefnau gweithredu, hyfforddiant, paredau a digwyddiadau arbennig, adroddiadau ar weithgareddau, cylchlythyron ac erthyglau papur newydd, 1874-1990

Cofnodion yn ymwneud â'r Ddau Ryfel Byd, 1914-1918 a 1939-1947, a Chofnodion y Pwyllgor Carcharorion Rhyfel, 1940-1945

Cofnodion yn ymwneud â chofebion rhyfel y Gatrawd, 1922-1970


Gweld rhestr lawn o'r holl gofnodion hyn ar yr 'Archives Hub' (saesneg yn unig).


Yn ogystal â'r cofnodion hyn a gedwir yn Amgueddfa'r Castell a'r Gatrawd yn Nhrefynwy, mae nifer helaeth o gofnodion sy'n ymwneud â'r Gatrawd yn cael eu cadw mewn mannau eraill. Gallwch weld rhestr lawn o gofnodion a gedwir mewn mannau eraill.


Os ydych chi'n chwilio am berthynas a fu'n gwasanaethu yn y Gatrawd, neu os ydych chi'n gwneud ymchwil i aelodau catrodau'r milisia, mae gwybodaeth am aelodau'r Gatrawd ar gael ar gronfa ddata y gallwch chi bori trwyddi.

Arfbais yr Amgueddfa



Ariennir y prosiect i gatalogio'r archifau a datblygu'r wefan archifol gan:

logo Llywodraeth Cymru