ENGLISH
 

Archif Gatrodol
(Milisia) Peirianwyr Brenhinol Sir Fynwy

Rhestrau o'r rheini a wasanaethodd yn y Gatrawd

Llun o 10 aelod o'r No.7 Company Transport Group yn y Beaufort Arms, 1917. Roeddent i gyd yn yrwyr (Dr).
No.7 Transport Group 1917
Clicio'r delwedd am fersiwn fwy

Mae nifer o wahanol fathau o gofnodion yn cynnwys enwau aelodau'r Gatrawd. Gelwid y dynion a wasanaethodd yn y Gatrawd pan oedd yn gatrawd o filisia yn filisiaid. Pan ddaeth yn Gatrawd o beirianwyr ym 1877, gelwid y dynion yn gloddwyr (weithiau, defnyddiwyd y talfyriad 'spr.').

Swyddogion ar risiau'r Great Castle House, 1860
Swyddogion ar risiau'r
Great Castle House
Clicio'r delwedd am fersiwn fwy

Mae'r Cofrestri Ymrestru'n cofnodi manylion dynion wrth iddyn nhw ymrestru. Mae'r rholiau catrodol a'r rholiau mwstro'n rhestru'r holl swyddogion a'r milisiaid neu'r cloddwyr ar ddyddiadau penodol. Mae yna hefyd gofnodion ar wahân sy'n rhestru swyddogion yn unig. Mae rhai o'r cofnodion hyn yn cynnwys llawer o wybodaeth, tra bod eraill yn cynnwys llai, ond maen nhw i gyd yn ddefnyddiol i haneswyr teuluol sy'n ceisio olrhain perthnasau a oedd wedi gwasanaethu yn y Gatrawd.

Mae'n werth nodi bod y rhan fwyaf o'r rheini a wasanaethodd yn y Gatrawd yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg cynnar yn byw yn Sir Fynwy, ond o'r 1850au ymunodd llawer o ddynion o siroedd eraill â'r Gatrawd.


Llun o dudalen o gofrestr ymrestru, yn dangos colofnau'n cofnodi gwybodaeth
Tudalen o
gofrestr ymrestru
Clicio'r delwedd am fersiwn fwy
Mae'r Gofrestr Ymrestru hon yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 1786 a 1817 ac yn cynnwys gwybodaeth ddiddorol am y rheini a ymunodd â'r Gatrawd. Mae'n cynnwys disgrifiad corfforol o bob dyn, yn ogystal â gwybodaeth am oedran a man geni. Mae cofrestri tebyg yn bodoli sy'n cwmpasu'r cyfnodau 1872-1887, 1889-1915 a 1914-1927. Mae'r wybodaeth a roddir ym mhob cofrestr yn amrywio ychydig.

Mae rholiau catrodol yn rhoi llawer llai o wybodaeth, gan gofnodi'r enw a'r rheng yn unig.

Llun o bedwar cloddiwr yn sefyll ac yn ysmygu sigarêts
Pedwar cloddiwr
yn ystod WW1
Clicio'r delwedd am fersiwn fwy

Mae cronfa ddata'n cael ei chreu ar sail y wybodaeth yn y cofrestri hyn a'r rholiau catrodol. Ar hyn o bryd, dim ond gwybodaeth o'r gofrestr gyntaf (1786-1817) a'r Rholyn Catrodol ar gyfer 1914-1916 sydd wedi'i mewnbynnu. Y gobaith yw y caiff gwybodaeth o'r cofrestri a'r rholiau eraill ei hychwanegu'n ddiweddarach.

Chwilio'r gronfa ddata>
Arfbais yr Amgueddfa



Ariennir y prosiect i gatalogio'r archifau a datblygu'r wefan archifol gan:

logo Llywodraeth Cymru